Croeso i NCAS
Nod Canolfan Genedlaethol y Gwyddorau Atmosfferig (NCAS) yw cynnal rhaglen ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol, a darparu gwasanaethau ymchwil ar gyfer prifysgolion a chyrff cyhoeddus dros Brydain.
Gyda chyllideb flynyddol o £ 9M mae'r rhaglen ymchwil yn cynnwys:
- Datblygu dulliau o ragfynegi'r hinsawdd, dros gyfnodau'n ymestyn o dymhorau i ganrifoedd
- Gwella ein gallu i ragfynegi ansawdd aer, yn cynnwys astudiaethau sylfaenol ar gyfansoddiad yr atmosffer
- Gwella rhagolygon tywydd, yn enwedig tywydd eithafol
- Datblygu technoleg ar gyfer arsylwi a modelu'r atmosffer

Mae'r adnoddau sydd ganddom ar gyfer y gymuned wyddonol yn cynnwys awyren BAe 146 yn llawn offer i fesur nodweddion yr atmosffer megis gwynt, cymylau, nwyon, llwch ayyb. Mae ganddom hefyd offer maes o bob math ar gyfer arbrofion mwy hir-dymor, a threfn i alluogi ymchwilwyr i ddefnyddio cyfrifiaduron pwerus a basau data anferth o fesuriadau a modelau.
Byddwn yn defnyddio'n arbenigaeth er budd gwneuthurwyr polisi, gwyddonwyr eraill a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Yr ydym yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC)




